Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Hydref 2022
Amser:
09.20 -
12.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12986
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Andy Bell, Y Ganolfan Iechyd Meddwl Sian Taylor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Angela Lodwick, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda Richard Maggs, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Emma Haggerty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Julie Keely, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru Dr Kim Dienes, Prifysgol Abertawe Dr Liz Forty, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Simon Jones, Mind Cymru Dominic Smithies, Student Minds |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Rosemary Hill (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nid oedd unrhyw ddirprwyon.
1.3 O dan Reol
Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei
gŵr yn Athro
a’i fod yn cael ei gyflogi gan Brifysgol
Abertawe.
2 Cymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch - sesiwn dystiolaeth 3
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fyrddau Iechyd a’r Ganolfan Iechyd Meddwl.
2.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddarparu gwerthusiad o'r prosiectau peilot mewngymorth mewn ysgolion, gan gynnwys yr effaith ar fyfyrwyr ac addysgwyr.
2.3 Oherwydd
cyfyngiadau amser, cytunodd y Cadeirydd y byddai'r cwestiynau nas
gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion ar gyfer ymateb
ysgrifenedig.
3 Cymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch - sesiwn dystiolaeth 4
3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, Coleg
Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, a Dr Kim Dienes.
4 Cymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch - sesiwn dystiolaeth 5
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Mind Cymr a Student Minds.
5 Papurau i'w nodi
5.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
6.1 Derbyniwyd y
cynnig.
7 Cymorth iechyd meddwl mewn addysg uwch - trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.